Mae dynes o Landysul yn gwadu ei bod hi – ynghyd â’i chymuned – wedi gyrru ysgol berfformio o’r ardal.
Roedd y Hyperbole Theatre Company wedi gobeithio trawsnewid hen ysgol gynradd y dref, ac agor ei drysau i ddisgyblion ym mis Medi eleni.
Ond yn sgil ffrae tros faint o ddefnydd y byddai’r ysgol yn ei wneud o’r Gymraeg, mae sefydlwyr yr ysgol berfformio bellach yn dweud na fydd yr ysgol yn agor o gwbwl.
Cafodd hyn ei ddatgan ar Facebook gan un o berchnogion Hyperbole Theatre, Gareth Williams, ac yn ei neges mae’n cyfeirio’n benodol at Cat Dafydd, gwraig leol oedd wedi lleisio pryderon ar y cyfryngau cymdeithasol am ddefnydd yr ysgol berfformio newydd o’r Gymraeg.
Ond mae hi’n wfftio wrth golwg360 unrhyw honiadau fod yr ysgol wedi cael ei “gorfodi” allan o’r dref.
“Dydw i ddim wedi eu gyrru allan o’r ardal,” meddai’r ddysgwraig sy’n hanu o Fanceinon wrth golwg360. “Mae’n beth rhyfedd i’w ddweud.
“Dw i fy hun wedi symud i’r ardal. Wnes i hynny dim ond wyth blynedd yn ôl. Dw i wedi dysgu Cymraeg. Dw i’n byw yma yn Llandysul. Mae’n gymuned hyfryd i fyw ynddi.”
Negeseuon
Mewn neges ar Facebook a gafodd ei chyhoeddi ddydd Llun yr wythnos hon (Gorffennaf 22) mae Cat Dafydd yn honni iddi ohebu â Hyperbole Theatre Company.
Roedd ganddi ddiddordeb anfon ei phlant i’r ysgo berfformio, ac ar ôl rhywfaint o negeseuon yn ól a blaen, mae’n honni iddi glywed mai “Saesneg yn unig” fyddai iaith y gweithgareddau.
Mewn cyfres o ymatebion i neges Cat Dafydd, mae Gareth Williams wedi wfftio hynny – er yn cydnabod mai Saesneg fyddai iaith y gwersi, mae’n dweud y byddai plant wedi medru siarad Cymraeg â’i gilydd yn y gwersi.
Yn ei neges olaf, mae’n datgelu na fydd yn bwrw ymlaen â’r cynlluniau i agor yr ysgol, ac mae’n rhoi’r bai ar y gymuned am hynny.
Hyperbole Theatre Company, a new Performing Arts School in the old Ysgol Llandysul building. A full timetable of…
Posted by Cat Dafydd on Monday, 22 July 2019
“Agenda gudd”
“Rydym ni’n deall,” meddai’r neges gan Gareth Wiliams. “Dydych chi ddim eisiau i unrhyw un arall o du allan i’r dref lwyddo ynddi.
“Ond beth am stopio esgus bod hyn yn unrhyw beth i wneud â phlant yn dod i ddosbarth drama. Gwrthwynebu pawb arall. Dyna sydd wrth wraidd hyn.
“Gwrthwynebu eraill oni bai eu bod yn cydymffurfio â’ch disgrifiad o fod dynol (hynny yw, oni bai eu bod yn siarad Cymraeg).”
Mae’n ategu y bydd yn dychwelyd i Wiltshire a Dorset lle mae rhieni yn “garedig a heb agenda gudd”.
Mae golwg360 wedi cysylltu â’r Hyperbole Theatre Company am ymateb.