Byddai Brexit heb gytundeb yn rhoi swyddi, buddsoddi a bywoliaeth pobol yn y fantol yn ogystal â dinistrio ffermio yng Nghymru, yn ôl gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Daw’r rhybudd gan Weinidog Brexit Cymru, Jeremy Miles, a’r Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, wrth dfisgwyl i enw Prif Weinidog newydd gwledydd Prydain gael ei gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 23).

Maen nhw’n galw ar y Prif Weinidog newydd i sicrhau bod Brexit heb gytundeb yn cael ei hosgoi.

Wrth drafod y mater yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd mae Jeremy Miles ac Eluned Morgan yn honni y gall canlyniad Brexit o’r fath ddinistrio’r diwydiant ffermio yng Nghymru.

Mae amaeth wedi sefydlu cysylltiadau allforio da gyda gwledydd ar draws yr Undeb Ewropeaidd, a byddai tariffiau yn effeithio ar hynny.  

“Ergyd fawr”

“Rhaid i’r rheini sy’n frwd dros Brexit heb gytundeb glywed y neges glir o Gymru heddiw – byddai hyn yn ergyd enfawr i Gymru ac yn drychinebus i’n gwlad a’n heconomi,” meddai Jeremy Miles.

“Ni ddylid caniatáu i hynny ddigwydd – ni allwn aros nôl ac edrych ar y twf sydd wedi’i gynnal yn y sector ffermio a bwyd yng Nghymru gael ei ddinistrio gan gamau difeddwl ambell berson.

“Heddiw, rydyn ni’n galw ar y Prif Weinidog nesaf i osgoi Brexit heb gytundeb.”

Effaith Brexit heb gytundeb

Yn ôl Llywodraeth Cymru byddai Brexit heb gytundeb yn arwain at:

  • Economi – 8% i 10% yn llai. Byddai hynny’n gyfwerth â rhwng £1,500 a £2,000 y pen;
  • Llai o swyddieconomi wannach a mwy o rwystrau ar gyfer busnesau yn peryglu swyddi, buddsoddiadau a bywoliaeth pobol;
  • Biwrocratiaeth ac oedi – gallai newidiadau i’r rheolau tollau sy’n ychwanegu at gostau, amser, anghyfleustra a rheoliadau gael effaith ddinistriol ar economi Cymru;
  • Oedi mewn porthladdoedd – Cymru a’r Deyrnas Unedig – wrth i rwystrau a gwiriadau newydd gael eu cyflwyno.