Mae archfarchnad figan gyntaf tref Llanelli wedi agor ei drysau, ac mae’r busnes hefyd yn honni ei fod yn hollol “ddi-blastig”.
Fe agorodd Kind Earth ei drysau ym Maes y Coed am y tro cyntaf yr wythnos ddiwethaf (Gorffennaf 12), diolch i grant o bron i £4,500 gan Gyngor Sir Gaerfyrddin er mwyn prynu offer.
Mae’r archfarchnad yn arbenigo mewn gwerthu bwyd figan organig sydd wedi ei gynhyrchu’n lleol, a bagiau papur –yn hytrach na rhai plastig – sy’n cael eu darparu i gwsmeriaid.
Mae’r perchnogion hefyd yn gobeithio y bydd y busnes yn ganolbwynt ar gyfer gwahanol brosiectau amgylcheddol, gan gynnwys diwrnodau casglu sbwriel a gweithdai ar sut i wella ansawdd bywyd.
‘Gwella’r gymuned a’r byd’
“Dw i’n gobeithio y bydda i a’m rhanddeiliaid yn gallu gwneud ein cymuned leol a rhyngwladol yn lle gwell,” meddai Matt Rogerson, y perchennog.
“Nid siop figan lle y gall pobol brynu bwyd ffres lleol o ansawdd da yn unig yw hon. Bydd hefyd yn cynnig cyfle i gwsmeriaid fod yn rhan o brosiectau a gweithdai a fydd yn gwneud ein cymuned yn fwy iachus a chynaliadwy.”
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi croesawu’r agoriad, gan ddweud eu bod yn “hapus” i gefnogi busnes “a fydd o fantais i’r gymuned ac yn cynnig ystod ehangach o fwyd i bobol.
“Fel cyngor, rydyn ni’n parhau’n ymrwymedig i gryfhau ein heconomi leol ac i roi cymaint o ddewis ag sy’n bosib i bobol Sir Gaerfyrddin,” meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole.