Mae dynes, 59, wedi cael ei harestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn, 71, yn y Rhyl.
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn Heol Tynewydd yn ystod oriau mân y bore heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 16) lle cafodd corff ei ganfod.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, maen nhw ar hyn o bryd yn trin y farwolaeth fel un amheus, ac mae swyddogion yn dal i fod ar y safle.
“Mae’r perthnasau agosaf wedi cael eu hysbysu ac mae ymchwiliad wedi cychwyn,” meddai llefarydd ar ran y llu.
“Mae hwn yn ddigwyddiad ynysig a does gennym ni ddim gwybodaeth i awgrymu bod y digwyddiad yn mynd i effeithio ar y gymuned ehangach.”