Mae clerigwr Mwslimaidd sydd wedi’i gael yn euog o gynllwynio gweithred frawychol, wedi cael ei ddal yn Norwy dan warant gan yr Eidal.
Mae Mullah Krekar o Irac yn y ddalfa ers yn hwyr neithiwr (nos Lun, Gorffennaf 15), ond dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd e’n cael ei estraddodi.
Fe gafwyd Mullah Krekar yn euog mewn llys yn yr Eidal, ac mae wedi’i ddedfrydu i dreulio 12 mlynedd yng ngharchar.
Ond mae’r clerigwr yn rhannu’i amser rhwng yr Eidal a Norwy, ac roedd wedi teithio yno yn dilyn yr achos llys gan ddweud ei fod yn bwriadu apelio yn erbyn y dyfarniad.