Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar yng Ngwynedd.
Digwyddodd gwrthdrawiad nos Iau (Gorffennaf 11) ar yr A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog.
Dau gerbyd – Renault Scenic glas a Mitsubishi ASX glas – oedd ynghlwm â’r gwrthdrawiad a bu gyrrwr y Renault Scenic farw yn y fan a’r lle.
Dynes leol oedd gyrrwr y Renault Scenic. Cafodd unigolion eraill eu trin am fân anafiadau.
Clywodd Heddlu’r Gogledd adroddiad am y gwrthdrawiad am 9.30 y nos, ac aeth y llu ati i gau’r ffordd wedi hynny.
Apêl
“Rydym yn cydymdeimlo gyda theulu’r ymadawedig,” meddai Meurig Jones, Rhingyll o’r Uned Plismona Ffyrdd.
“Rydym yn apelio i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu unrhyw un sydd wedi gweld y cerbydau’n teithio ar hyd yr A487 cyn y gwrthdrawiad i ddod ymlaen.”
Ar hyn o bryd dyw Heddlu’r Gogledd ddim mewn sefyllfa i ryddhau manylion am y ddynes.