Mae Dylan Iorwerth yn disgrifio’r diweddar Gwilym Owen, a fu farw’r wythnos hon yn 87 oed, yn “arloeswr holi caled yn Gymraeg”.

Cyn mynd ymlaen i sefydlu cwmni Golwg yn 1988, bu Dylan Iorwerth yn gweithio gydag Gwilym Owen pan oedd y ddau’n newyddiadurwyr i’r BBC.

Yn ddiweddarach, bu Gwilym Owen yn golofnydd pryfoclyd i gylchgrawn Golwg, cyn iddo roi’r gorau iddi rai misoedd yn ôl.

“Roedd ganddo fo farn braff a rhagfarnau gogoneddus – yn gryfder mawr ac ychydig o wendid hefyd,” meddai Dylan Iorwerth.

“Dyna pam ei fod cystal am nabod pynciau oedd yn tanio pobol ac am herio rhai buchod sanctaidd Cymraeg.

“Delwedd gyhoeddus – nid y dyn go-iawn – oedd yr un sinig caled efo croen eliffant.”