Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i feiciwr modur farw mewn gwrthdrawiad ger Johnstown, Wrecsam, neithiwr (nos Fercher, Gorffennaf 10).
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, fe gawson nhw eu galw toc cyn 5yh yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad un cerbyd ar y darn o’r ffordd sy’n cysylltu’r A483 a’r B5426.
Bu farw’r beiciwr, a oedd yn ei 50au, yn y fan a’r lle, meddai’r heddlu ymhellach.
Mae’r heddlu wedi rhoi gwybod i deulu’r beiciwr am y digwyddiad.