Dyw’r Democratiaid Rhyddfrydol ddim mewn “pact” hirdymor â Phlaid Cymru, yn ôl eu harweinydd yng Nghymru.
Jane Dodds sydd yn arwain y blaid ar yr ochr yma o Glawdd Offa, ac ar hyn o bryd mae’n sefyll i gynrychioli sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed.
Bydd isetholiad yn cael ei gynnal yn yr etholaeth honno ym mis Awst, a daw hyn wedi i’r cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, Chris Davies, gael ei orfodi i gamu o’r neilltu.
Mae Plaid Cymru – a’r Blaid Werdd – wedi penderfynu peidio â sefyll er mwyn gwella gobeithion y Democratiaid Rhyddfrydol, ac mae Jane Dodds yn croesawu hynny.
Ond mae’n gwrthod y syniad bod hyn yn mynd i arwain at gydweithio clos tros y misoedd nesaf.
“Dyw hyn ddim yn pact,” meddai wrth golwg360. “Dyna beth sy’n bwysig. Ond mae’n amser cael rhyw fath o wleidyddiaeth newydd. A chawn ni weld.
“Mae pobol yn gweld bod y byd gwleidyddol mor annifyr… Felly, mae hyn yn gyfle i ddweud bod [angen] dechrau newydd.”
Dêl tros Geredigion?
Mae cwestiynau wedi cod ynglŷn â beth fydd Plaid Cymru yn ei dderbyn gan y Democratiaid Rhyddfrydol am gamu o’r neilltu.
Ac un posibiliad yw y gallai’r blaid gamu i’r ochr – fel ffafr – mewn etholaeth yn y dyfodol.
Tybed felly ydy’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi addo camu o’r neilltu mewn sedd sy’n gystadleuol rhwng y ddwy blaid – Ceredigion, er enghraifft?
“Does dim penderfyniad o gwbwl,” meddai. “Dydyn ni ddim yn siarad am hynny’n gyhoeddus chwaith. Ond, yn enwedig yng Ngheredigion.
“Rydym ni am sefyll yng Ngheredigion. A chawn weld beth sy’n digwydd ar ôl yr isetholiad yma, ac ar ôl Awst 1. Ond does dim cytundeb efo nhw o gwbwl.”