Bu’n rhaid i’r Llynges Brydeinig weithredu yn erbyn tair llong o Iran wrth iddyn nhw geisio atal llong fasnachol yn y Dwyrain Canol.
Yn ôl y Weinyddiaeth Brydeinig, fe giliodd y llongau wedi iddyn nhw dderbyn rhybudd gan yr HMS Montrose yn y rhan o’r môr rhwng Iran ac Oman.
Daw’r digwyddiad ddiwrnod ar ôl i Iran feirniadu gwledydd Prydain am atal tancer a oedd yn cario olew o Iran i Syria. Roedd yr awdurdodau Prydeinig yn credu bod y tancer yn mynd yn groes i reolau’r Undeb Ewropeaidd.
Mae byddin Iran wedi gwadu’r honiadau maen nhw oedd yn gyfrifol am y tair llong, gan ddweud nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw orchmynion i atal llongau – “yn enwedig llongau Prydeinig,” medden nhw wedyn.
Mae gweinidog tramor y wlad, Mohammad Javad Zarif, hefyd wedi dweud ei fod o’r farn mai pwrpas yr honiadau “di-werth” gan Brydain yw i “greu tensiwn” rhwng y gwledydd.