Mae dyn 37 oed wedi’i gyhuddo o ddwyn gwn taser heddlu Bangor yr wythnos ddiwethaf.
Mae Barry John Roberts hefyd wedi’i gyhuddo o fod ag arf yn ei feddiant sydd wedi’i ddylunio neu ei addasu at ddibenion trydanu.
Mae’r heddlu’n parhau i chwilio am y gwn, er eu bod nhw wedi dod o hyd i gydrannau eisoes.