Fe fydd gwisgoedd ysgolion Cymru yn fwy fforddiadwy, ar gael i bawb ac yr un peth i fechgyn a merched ar ddechrau’r tymor ysgol newydd.

Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad canllaw Llywodraeth Cymru, fydd yn mynd ar waith ar Fedi 1, sy’n rhoi cyngor i gyrff llywodraethau a prif athrawon ar faterion yn ymwneud â pholisi gwisg ysgol.

Roedd y canllaw gynt yn 2011 yn anstatudol felly doedd hi ddim yn ofynnol yn gyfreithiol i ysgolion roi sylw iddo.

O dan y rhai newydd bydd disgwyl i gyrff llywodraethu ysgolion ystyried ffyrdd o gadw costau yn is a sicrhau mai’r un wisg sydd i fechgyn a merched.

Mae hyn yn golygu na fydd yr eitemau gwisg yn cael eu rhoi o dan ryw benodol, hynny yw – ni fydd trowsus yn cael ei rhoi o dan “eitem bechgyn.”

“Syniadau hen ffasiwn”

Daw’r penderfyniad yn dilyn ymgynghoriad y llynedd oedd yn honni bod polisïau gwisgoedd yn rhy llym, a bod angen cael yr un rhai i’r ddau ryw.

“Mae’r canllawiau hyn yn rhoi cyfrifoldeb statudol ar ysgolion i ystyried fforddiadwyedd, mynediad ac argaeledd wrth osod eu polisi gwisg ysgol,” meddai Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams.

“Ni ddylem fod yn gorfodi syniadau hen ffasiwn o ba ddillad sy’n addas ar gyfer eu rhyw chwaith, yn enwedig os yw’n gwneud iddyn nhw wisgo rhywbeth maen nhw’n teimlo’n anghyfforddus yn ei wisgo.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £ 125 i fyfyrwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim i brynu gwisgoedd ac offer eraill drwy’r grant datblygu disgyblion.

Mae gan ddisgyblion Blwyddyn 7 cymwys hefyd hawl i grant o £200 i helpu gyda chostau wrth ddechrau ysgol uwchradd.