Mae dyfodol Plas Glynllifon yng Ngwynedd yn dal yn ansicr gyda’r perchnogion presennol mewn trafodaethau i werthu’r safle i gwmni gwesty.

Mae’r plasdy rhwng Caernarfon a Phwllheli wedi bod yn nwylo Paul a Rowena Williams ers 2016, pryd y prynson nhw hefyd westy Seiont Manor ger Llanrug a Phlas Brereton yng Nghaernarfon.

Fodd bynnag aeth y cytundeb i brynu Plas Brereton i’r gwellt y llynedd ac mae cynllun adnewyddu Plas Glynllifon wedi bod ar stop ers rhai misoedd. Ers dechrau 2019, mae Myles Cunliffe, gŵr busnes o’r byd cyllid tyn Llundain yn berchen ar 50% o’r busnes.

Y gobaith oedd troi’r lle’n westy moethus, ond mae’n ymddangos y bydd ffawd y safle hynafol yn nwylo cwmni gwesty yn y dyfodol agos.

Cyngor Gwynedd – “Nid ein safle ni”

Dyw Cyngor Gwynedd chwaith “ddim mewn sefyllfa i fod yn rhannu pwy fydd y perchennog nesaf,” meddai llefarydd wrth golwg360.

“Nid ein lle ni fasa gwybod, nid ein safle ni ydi o, mae rhywfaint o drafodaethau wedi bod gyda’r perchnogion sbel yn ôl, ond tu hwnt i hynny dydan ni ddim yn gwybod.

“Dydi o ddim yn lle i ni ddweud wrth berchnogion preifat be’ i wneud hefo’r tir. Dw i ddim yn meddwl bod yna gais cynllunio ar hyn o bryd chwaith,”

Mae Cyngor Gwynedd wedi sôn rhywfaint gyda’r perchnogion presennol, ac fe fydden nhw’n barod i drafod gyda’r rhai newydd “maes o law,” meddai.