Mae Jeremy Hunt, un o ddau ymgeisydd yn y ras i arwain y Blaid Geidwadol, wedi rhybuddio y gallai’r gwrthbleidiau sydd o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd uno yn yr un modd ag y maen nhw wedi’i wneud ym Mrycheiniog a Maesyfed.
Daw ei rybudd wrth i’r etholaeth baratoi i ethol aelod seneddol ar ôl i Chris Davies gael ei ddiswyddo trwy ddeiseb am i lys ei gael yn euog o gyflwyno treuliau ffug.
Fe fydd e’n sefyll unwaith eto yn yr etholiad ar Awst 1.
Ond y Democratiaid Rhyddfrydol sydd fwyaf tebyg o guro’r Ceidwadwyr, ac mae Plaid Cymru wedi penderfynu peidio â chyflwyno ymgeisydd o ganlyniad, fel na fydd yn hollti’r bleidlais tros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Jeremy Hunt a Boris Johnson, ill dau, yn cefnogi Chris Davies i ennill ei sedd yn ôl, er i Boris Johnson ei gamgymryd am arweinydd y blaid yng Nghymru, Paul Davies.
Trefniadau tebyg yn rhannau eraill o wledydd Prydain
Dywed Jeremy Hunt fod trefniadau tebyg yn eu lle mewn rhannau eraill o wledydd Prydain.
“Rhaid i ni fod yn ofalus iawn oherwydd nid dim ond ym Mrycheiniog a Maesyfed y mae hyn yn digwydd, ond mae’n digwydd mewn rhannau eraill o’r wlad hefyd,” meddai yn ystod hystingau yng Nghaerdydd.
“Dw i wedi gweld elfennau o hynny’n digwydd yn fy etholaeth fy hun.
“Dyna pam fod rhaid i ni fod yn rymus iawn wrth frwydro.”
Chris Davies
Dywed Jeremy Hunt hefyd fod Chris Davies yn “foi gwych”, a bod “rhaid” ei gael e yn ei ôl yn San Steffan.
“Dw i’n ei gefnogi fe oherwydd roedd e’n aelod seneddol lleol gwych, ac am fy mod i’n credu y bydd ei etholwyr hefyd yn dymuno ei gefnogi fe, mae’r blaid yn lleol yn ei gefnogi fe, ac fe gafodd e amser caled gyda’r camgymeriad gweinyddol wnaeth e.”
Ac mae’n pwysleisio fod angen i’r blaid uno yn wyneb y bygythiad gan bleidiau eraill.
“Dydy’r flwyddyn ddiwethaf ddim wedi bod yn wych o ran hynny ond pan ydyn ni’n uno, all y Ceidwadwyr fyth cael eu trechu, a rhaid i ni gofio hynny wrth fynd yn ein blaenau.”
Paul… neu Chris?
“Mae Paul wedi cael ei ddewis eto…,” meddai Boris Johnson cyn cywiro’i hun ac ychwanegu, “Maddeuwch i mi.”
Ond fe ddywedodd wedyn fod ganddo fe “feddwl mawr” o Chris Davies, ac y byddai’n barod i ymgyrchu drosto.
“Rhaid i ni ymgyrchu tros bob pleidlais ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed,” meddai wedyn.
Arian i Gymru
Yn y cyfamser, mae Boris Johnson wedi manteisio ar yr hystingau yng Nghaerdydd i addo arian i Gymru ar ôl Brexit.
Dywed y bydd Cymru’n derbyn “arian llawn”, ond mae’n awgrymu ar hyn o bryd mai’r Ceidwadwyr fyddai’n penderfynu sut i ddosbarthu’r arian hwnnw o San Steffan.
Mae Cymru’n derbyn £370m y flwyddyn o gronfeydd strwythurol a buddsoddi’r Undeb Ewropeaidd.
“Fe all fod yna ambell gwestiwn am sut y mae’r arian hwnnw’n cael ei ddosbarthu, gan bwy, a byddem am sicrhau fod yna ddylanwad Ceidwadol cryf ar wario’r £350m hwnnw neu beth bynnag yw’r swm hwnnw.”