Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i farwolaeth sydyn dyn yn Aberhonddu.

Cawson nhw eu galw i Lion Yard y dref am oddeutu 6.40yh neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 2).

Ond fe fu farw’r dyn yn yr ysbyty yn fuan wedyn, ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a ddefnyddiodd doiledau cyhoeddus yn yr ardal rhwng 4yp a 6.30yh.