Mae’r heddlu wedi enwi’r bachgen a gafodd ei ganfod yn farw yn afon Cynon neithiwr (nos Lun, Gorffennaf 1).

Bu Heddlu De Cymru yn chwilio am Christoher Kapessa, 13, o ardal Pontypridd, ar ôl iddyn nhw dderbyn adroddiadau am “berson ifanc” yn y darn o’r afon ger Fernhill ger Aberpennar.

Daeth cadarnhad yn ddiweddarach eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff y bachgen gerllaw, ac mae ymchwiliad i’r digwyddiad eisoes wedi cychwyn.

Yn y cyfamser, mae cronfa ar-lein wedi casglu dros £1,000 ar gyfer teulu Christopher Kapessa.