Mae cyfres o focsus llong wedi cael eu gosod yn Stryd Biwt, Caerdydd, er mwyn darparu cartrefi dros-dro i’r digartref.

Mae’r cyfan yn rhan o gynllun sy’n cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Dinas Caerdydd a Llywodraeth Cymru er mwyn darparu llety dros dro i deuluoedd hyd nes bod cartref llawn amser ar gael iddyn nhw.

Bydd 20 uned ar gael ar hen safle PDSA, a’r bwriad yw eu troi’n saith fflat dau ystafell wely, a chwe fflat un ystafell wely – a hynny dros ddau lawr.

Yn ôl Cymdeithas Dai Cadwyn, sydd yng ngofal y cynllun ar ran Cyngor Dinas Caerdydd, bydd yr unedau yn cael eu trawsnewid gan gwmni Willis Construction yn ystod yr wythnosau nesaf, gan ddilyn yr un safonau adeiladu ar gyfer tai fforddiadwy.

Mae’r gymdeithas dai hefyd yn cynnig rhaglen hyfforddi 10 wythnos ar gyfer pobol leol, gyda’r nod o’u cynnwys yn rhan o’r gwaith datblygu.