Mae tân wedi lladd 14 o forwyr ar un o gychod tanfor llyges Rwsia.
Mae swyddogion wedi cadarnhau i’r fflamau gynnau ddydd Llun (Gorffennaf 1) trw’r oedd y cwch yn cynnal profion yn nyfroedd Rwsia yn Severomorsk yng nghylch yr Arctig.
Bwriad y cwch oedd astudio gwely’r môr.
Dyw’r awdurdodau ddim wedi gallu dod o hyd i achos y tân, ond mae ymchwiliad ar y gweill.
Mae llynges Rwsia yn defnyddio cerbydau Priz a Bester i fynd i lawr yn ddyfn dan y dŵr. Maen nhw wedi’u gwneud â’r metel titaniwm, ac fe allan nhw fynd mor isel â mil o droedfeddi.