Dyw pobol Ewrop ddim yn siŵr os oes croeso iddyn nhw yn y Deyrnas Unedig – ac mae hynny oherwydd Brexit.
Dyna mae Cadeirydd Eisteddfod Llangollen, Dr Rhys Davies, wedi ei rybuddio ar drothwy’r ŵyl ryngwladol yn y gogledd fydd yn cychwyn ddydd Llun.
Er bod 50,000 o bobol yn dal i ymweld â’r ŵyl bob blwyddyn, mae’r nifer o rheiny sydd o’r cyfandir yn cwympo, ac mae Rhys Davies awgrymu bod Brexit yn rhannol ar fai.
“Mae’r nifer o ymwelwyr o Ewrop eisoes wedi disgyn,” meddai wrth golwg360.
“Mae hynny’n rhannol oherwydd y costau. Mae cymaint yn rhatach i’r rheiny sy’n byw ar y cyfandir i ymweld â gwyliau fan yna, yn hytrach na theithio dros y sianel.
“Hefyd, ers i drafodaethau Brexit ddechrau mae ein cenedl wedi dod yn rhanedig, ac mae ein ffrindiau Ewropeaidd yn fwyfwy ansicr ynglŷn ag a fyddan nhw’n cael eu croesawu yma.”
Eisteddfod Llangollen
Bydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn cael ei hagor gan y cyflwynydd, Jools Holland, ddydd Lun nesaf ac yn gorffen ar ddydd Sul, Gorffennaf 7.
Bydd cystadlaethau yn cael eu cynnal yn ddyddiol, gyda Gipsy Kings a Rolando Villazón ymhlith y rheiny a fydd yn perfformio yng nghyngherddau’r hwyr.
Mae 4,000 o berfformwyr rhyngwladol yn cymryd rhan bob blwyddyn.
Mae Dr Rhys Davies yn credu bod yr ŵyl yn gyfle i “sicrhau nad ydym yn colli ein ffrindiau o Ewrop” ac yn ffordd o ddod â “chenhedloedd at ei gilydd”.