Mae barnwr mwya’ profiadol Cymru a Lloegr yn “hynod bryderus” ynglŷn â faint o droseddwyr sy’n mynd heb eu cosbi.
Yn ôl Syr Brian Leveson, sy’n ymddeol, mae angen cydnabod “gwerth cymunedol” y system gyfiawnder ac mae’n rhybuddio y gallai honno chwalu heb fwy o fuddsoddiad.
Mae’r barnwr yn credu hefyd y byddai’n anghywir i Lywodraeth Prydain roi’r gorau i garcharu troseddwyr sy’n cael eu dedfrydu i lai na chwe mis dan glo.
“Mae’n bryderus iawn iawn fod pobol ein gwlad yn dioddef o gamweddau a ddim yn cael cyfiawnder trwy ein llysoedd troseddol,” meddai.
“Mae’r llysoedd hyn yn rhan allweddol o’n cymdeithas a dyma’r ffordd y mae cymdeithas yn adlewyrchu’r safonau ymddygiad sy’n ofynnol gan ei phobol.”