Mae’r heddlu wedi rhoi’r gorau i ymchwiliad i dân eithin a aeth allan o reolaeth ar lethrau uwchben Blaenau Ffestiniog dros y Pasg.

Ni fydd camau pellach yn cael eu cymryd, ac ni fydd ymchwiliad pellach i fachgen 15 oed a gafodd ei arestio ar 24 Ebrill ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol.