“Roedd Heulwen yn berson cadarnhaol tu hwnt, yn gweld y gorau ym mhopeth ac yn chwilio am y gorau ym mhawb roedd hi’n dod ar eu traws nhw.”
Dyna eiriau’r cynhyrchydd teledu, Branwen Cennard, wrth dalu teyrnged i’w chyfaill, Heulwen Hâf.
Fe wnaeth y ddwy gyfarfod â’i gilydd y tro cyntaf ar set y rhaglen gylchgrawn, Wedi Tri, yn 2006, lle roedd Branwen Cennard yn olygydd cynnwys a Heulwen Hâf yn gyfrannwr cyson.
Bu’r ddwy’n gyfeillion tan y diwedd ym mis Rhagfyr 2019, pan gollodd Heulwen Hâf ei brwydr olaf yn erbyn canser, a hithau’n 74 oed.
Flynyddoedd ynghynt, darlledwyd rhaglen Blodyn Haul ar S4C yn dogfennu ei brwydr gyntaf gyda’r afiechyd, ac yn 2011 fe gyhoeddodd y llyfr ffeithiol, Bron yn Berffaith.
Dewrder
Yn ôl Branwen Cennard, roedd Heulwen Hâf yn “fenyw ddewr iawn” a lwyddodd i wynebu canser mewn ffordd “gadarnhaol”.
“Pan gath hi’r diagnosis cyntaf o gancr dros ddeng mlynedd yn ôl nawr, fe benderfynodd hi nad oedd hi’n mynd i frwydro yn erbyn y cancr, ond ei bod hi’n mynd i gofleidio’r cancr ac, eto, edrych ar y cancr fel rhywbeth positif,” meddai Branwen Cennard wrth golwg360.
“Wrth gwrs, er bod y cyfnod pan oedd hi’n sâl yn anodd iawn, iawn iddi hi yn gorfforol ac yn feddyliol, fe wnaeth hi gymryd pob cyfle i fod yn gadarnhaol am y profiad hwnnw…”
“Mi roedd hi’n ddewr a phan ddoth y cancr yn ôl am yr eildro yn ddiweddar, mi roedd hi yr un mor ddewr yn penderfynu ei bod hi ddim yn mynd i ail-gerdded y llwybr gymrodd hi ddeng mlynedd yn ôl a’i bod hi’n mynd i dderbyn, mewn ffordd, bod y cancr yn ôl a bod dim gwella y tro yma.
“…mi roedd y ffordd wnaeth hi ddelio gyda’i phenderfyniad yn gadarnhaol. Mi wnaeth hi y mwyaf o’i hamser, mi wnaeth hi roi ei thŷ a’i phethe mewn trefn, a sicrhau bod pob peth yn digwydd yn union fel yr oedd hi eisiau iddo fe ddigwydd.
“Roedd fy edmygedd hi ohoni bron â bod yn fwy yr eilwaith nag yr oedd e’r tro cyntaf, os yw hynny’n bosib.”
Mae modd gwrando ar Branwen Cennard yn sôn rhagor am Heulwen Hâf yn fan hyn: