Mae’r cyflwynydd a’r diddanwr, Stifyn Parri, yn dweud mai Heulwen Hâf oedd un o’r ychydig rai “oedd yn gallu edrych reit i mewn i fy enaid i”.
Bu farw’r gyflwynwraig, y gantores a’r actores yn 74 oed fis Rhagfyr y llynedd wedi iddi golli ei brwydr yn erbyn canser.
Bydd noson i’w chofio yn cael ei chynnal yng Ngwesty Dewi Sant yng Nghaerdydd yr wythnos hon ar ddiwrnod hirddydd haf (nos Wener, Mehefin 21).
Mae Stifyn Parri yn un o drefnwyr y noson, ac wrth hel atgofion am ei ddiweddar gyfaill, mae’n cofio’r anrheg olaf a dderbyniodd ganddi ychydig wythnosau cyn ei marwolaeth.
“Pan oedd hi’n paratoi i’n gadael ni, roedd hi’n rhoi pethau o’i thŷ hi er mwyn i ni ei chofio hi, ac roedd ei thŷ bychain twt hi yn llawn pethau crand a tassels mawr. Ac fe wnaeth hi adael tassel mawr i fi…
“A be dw i wedi ei wneud ag o ydy ei roi o i dynnu’r golau yn y tŷ bach, ac fe wnes i yrru neges ati cyn iddi ein gadael ni a dweud, ‘pan fydda i ar y tŷ bach fe fydda i’n cofio amdanat ti bob tro’.
“Ac fe ges i neges yn ôl yn dweud, ‘Ding Dong’.”
Noson cofio
Bydd ‘Hirddydd Heulwen Hâf’ yn noson anffurfiol a fydd yn cynnwys barbeciw a diodydd ar deras uchaf Gwesty Dewi Sant.
Pris y tocynnau yw £100 y pen, a bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at elusennau Marie Curie UK a Tenovus Cancer Care.
Mae’r trefnwyr wedi dewis Gwesty Dewi Sant yn lleoliad oherwydd ei bwysigrwydd i Heulwen Hâf.
“Roedd hi’n aelod o’r lle ac wrth ei bodd â’r lle,” meddai Stifyn Parri, sy’n un o’r trefnwyr.
“Dyna lle y gwnaeth hi lansio ei llyfr hi [Bron yn Berffaith], ac roedd hi’n aelod o’r sba yna. A dw i’n meddwl bod bron pawb sy’n ffrind iddi wedi bod yna gyda hi rywbryd neu’i gilydd…
“Gan ei bod hi’n hirddydd haf, rydyn ni’n gobeithio y bydd Heulwen yn tywynnu uwch ein pennau ni.”