Mae prif leisydd y band Cowbois Rhos Botwnnog wedi cyhoeddi ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, ac yn ei disgrifio’n gasgliad “mwy personol” na’r hyn y mae wedi ei sgrifennu o’r blaen.
Yn ôl Iwan Huws, sy’n wreiddiol o Ben Llŷn ond bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth, mae Gadael Rhywbeth (Cyhoeddiadau Barddas) yn cynnwys cymysgedd o gerddi a chaneuon hen a newydd.
Ond mae’n cyfaddef nad yw wedi cynnwys rhai o’i hen ganeuon yn fwriadol, er iddo fod yn “ddigon naïve” ar y cychwyn i feddwl y byddan nhw’n addas ar gyfer y casgliad.
Daeth i sylweddoli yn fuan bod y caneuon, a gyfansoddwyd ar gyfer eu perfformio, yn “gloff iawn” heb y gerddoriaeth.
Mae hynny, yn ei dro, wedi peri i Iwan Huws ailfeddwl ynghylch y gwahaniaeth rhwng ‘cân’ a ‘cherdd’, yn ogystal â newid y ffordd y mae’n sgrifennu.
Cân v cerdd
“O weld cerddi mor wael oedd rhai o fy nghaneuon i – rhai o’m hoff rai i hefyd – gwelais fod caneuon a cherddi yn aml yn gweithio’n wahanol i’w gilydd,” meddai Iwan Huws wrth golwg360.
“Efallai y gallan nhw rannu’r un diben, ond mae’r ffyrdd o wneud hynny’n wahanol iawn.
“Mewn cân, er enghraifft, does dim cymaint o bwysau ar bob llinell. Yn wir, weithiau, mae ambell i linell sy’n denu dim sylw yn gallu gwneud gwyrthiau, gan adael i’r gerddoriaeth anadlu ychydig.
“Ond, o ´mhrofiad i, dyw hynny ddim wastad yn gweithio mewn cerddi. Dyna’r prif reswm nad oes rhagor o’r hen ganeuon yn y gyfrol. Doedden nhw ddim yn gweithio fel cerddi o gwbwl.
“Dw i’n falch a dweud y gwir. Mi barodd hynny i mi fynd ati i sgrifennu rhagor o bethau newydd…”
Dyma glip o Iwan Huws yn adrodd y gerdd, ‘Gwanwyn’, allan o Gadael Rhywbeth…