Mae cwpwl o Gymru mewn peryg o golli hyd at £30,000 ar ôl i ddyddiad gŵyl banc ddechrau mis Mai’r flwyddyn nesaf gael ei newid, gan sarnu eu cynlluniau i briodi dramor.

Bydd yn rhaid i Anthony Messore, 40, a Jess Howells, 29, o Gwmbran, dalu am tua 70 o westeion a fydd yn methu â dod i’r briodas ar ddydd Sul, Mai 3.

Y rheswm am eu habsenoldeb yw bod gŵyl y banc ddechrau Mai, a oedd i fod ar y dydd Llun canlynol, wedi cael ei symud i ddydd Gwener, Mai 8, er mwyn cyd-fynd â dathliadau sy’n dynodi 75 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop.

Roedd disgwyl i’r cwpwl briodi mewn pentref glan y môr yn yr Eidal, ond mae nifer o ffrindiau a theulu agos wedi gorfod tynnu eu henwau yn ôl oherwydd ymrwymiadau gwaith ac ysgol.

Mae’r briodas, a oedd i fod i gynnwys 180 o westeion yn wreiddiol, eisoes wedi costio tua £70,000 i’r cwpwl.

Siom

“Fel merch, dw i wedi bod yn breuddwydio am y diwrnod arbennig hwn drwy gydol fy mywyd, ac roeddwn i wedi trefnu priodas berffaith,” meddai Jess Howells.

“Ond gyda’r Llywodraeth wedi penderfynu newid y dyddiad, fe all popeth fod yn hollol wahanol a sarnu ein diwrnod delfrydol.

“Os bydd yna drefniant gwahanol yn cael ei roi yn ei le, fel gŵyl banc ychwanegol, yna ni fydd hyn yn gymaint o broblem i ni a’n teulu.

“Bydd cymaint o bethau yn cael eu newid, symiau mawr o arian yn cael eu colli, a bydd yr atgofion a fydd yn cael eu creu ddim mor berffaith ag y dylen nhw fod, gydag aelodau o’r teulu yn absennol oherwydd hyn.

“Mae’r mater tu hwnt i’n rheolaeth ni yn llwyr.”