Mae Heddlu’r Gogledd yn beirniadu cyfres o ymosodiadau diweddar ar eu plismyn.
Maen nhw’n dweud ar eu tudalen Twitter fod chwe phlismon wedi dioddef ymosodiadau dros y penwythnos.
ae’r neges yn dweud nad yw plismyn yn “sachau taro”, nac yn barod i gael eu cicio a dioddef ymosodiadau.
Dywed Ffederasiwn Heddlu’r Gogledd y byddan nhw’n cynnig cefnogaeth i’r sawl sydd wedi dioddef ymosodiadau, ac yn sicrhau bod cyfiawnder iddyn nhw.