Cerflunydd sydd â’i wreiddiau ym Mhen Llŷn sy’n gyfrifol am ddylunio cofeb newydd yn Normandi, gan goffáu’r miloedd a gafodd eu lladd yn ystod cyrch D-Day 75 o flynyddoedd yn ôl.
Cafodd carreg sylfaen y gofeb yn nhref Ver-sur-Mer ei dadorchuddio gan Brif Weinidog Prydain, Theresa May, ac Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, mewn seremoni goffa arbennig heddiw (dydd Iau, Mehefin 6).
Bydd y gofeb efydd 18 troedfedd – wedi ei ddylunio gan David Williams-Ellis – yn darlunio tri milwr yn rhedeg ar draws traeth.
Bydd yn coffáu’r dros 22,000 o filwyr Prydeinig a fu farw yn ystod haf 1944.
Gwreiddiau Cymreig
Er i David Williams-Ellis gael ei eni yng Ngogledd Iwerddon ac er ei fod bellach yn byw yn Swydd Rhydychen, mae’n dal yn berchennog ar hen gartref y teulu – Carregfelen ger Porthmadog.
Ei hen ewythr oedd y pensaer Clough Williams-Ellis, sef sefydlydd y pentref Eidalaidd enwog, Portmeirion.
Ymhlith prosiectau Cymreig David Williams-Ellis mae cerflun efydd o’r artist Kyffin Williams, sydd wedi ei osod yn Oriel Môn yn Llangefni yn ddiweddar.
Roedd hefyd yn gyfrifol am ddylunio’r cerflun enwog o Ray Gravell, sy’n sefyll y tu allan i Barc y Scarlets yn Llanelli.