Roedd plant Michael Jackson ymhlith y gwesteion mewn cyngerdd er cof am y canwr yng Nghaerdydd neithiwr.

Roedd Prince Michael, Paris a Blanket, plant Michael Jackson fu farw o gorddos o gyffuriau yn 2009, ymhlith 50,000 o bobol yn Stadiwm y Mileniwm yn y brifddinas.

Roedd Cee Lo Green, Christina Aguilera, Gladys Knight, JLS a Smokey Robinson ymhlith yr artistiaid oedd yn cymryd rhan.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan frodyr Michael Jackson, Tito, Marlon a Jackie, ond yn ôl adroddiadau roedd y cyngerdd wedi achosi rhwyg o fewn y teulu.  Dywedodd ei frodyr Jermaine a Randy bod amseru’r cyngerdd yn “anaddas” am ei fod yn digwydd yn ystod yr achos llys yn erbyn Conrad Murray, y meddyg sydd wedi ei gyhuddo o ddynladdiad mewn cysylltiad â marwolaeth y canwr.