Fe lwyddodd  dyn 59 oed o Aberhonddu i arbed ei fywyd ei hun, diolch i’w gyfrif Gweplyfr (Facebook).

Deffrodd Peter Casaru, 59 oed, a darganfod nad oedd yn gallu symud ei goesau oherwydd gwingfa i linyn ei gefn. Doedd o ddim yn gallu ffonio am ambiwlans o’i fwthyn diarffordd oherwydd roedd batri ei ffôn symudol wedi marw.

Cymerodd dros awr i gropian at ei gliniadur (laptop) a llwyddodd i bostio neges yn gofyn am gymorth.

Mi wnaeth ffrindiau o Efrog Newydd a Vancouver ymateb i’w neges ond y ffrind a lwyddodd i ffonio 999 gyntaf oedd Juliet McFarlane sy’n byw chwe milltir i ffwrdd o gartref Mr Casaru. Cyrhaeddodd dau ambiwlans ei gartref ugain munud yn ddiweddarach.

Dywedodd Mr Casaru, sy’n ffotograffydd, fod meddygon wedi dweud wrtho y gall fod wedi marw os nad oedd wedi derbyn triniaeth brys.

Mae Mr Casaru wedi cael problemau gyda llinyn ei gefn ers iddo dorri ei gefn mewn damwain beic cwad chwe mlynedd yn ôl.

Diolchodd i’w ffrindiau oedd wedi gadael negeseuon iddo ac a geisiodd ei helpu. “Dwi bob amser yn jocan pan wy’n mynd ar Facebook felly wy’n falch eu bod nhw wedi fy nghymryd o ddifri,” meddai.

“Fy ffrindiau Facebook wnaeth fy achub i.”