Tydi Prif Weinidog Samoa ddim yn ddyn hapus.

Mae Tuilaepa Sailele Malieiagaoi wedi beirniadu’r bwrdd rheoli rygbi rhyngwladol (yr IRB) am ganiatáu i Gymro i ddyfarnu’r gêm rhwng Samoa a De Affrica yr wythnos ddiwethaf. Nigel Owens oedd y dyfarnwr yn y gêm wnaeth Samoa golli, sy’n golygu mai Cymru aeth drwodd i’r rownd go-gynderfynol.

Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi cyhuddo’r corff rheoli o ragfarn tuag at hemisffer  y gogledd a galwodd am dîm Llewod Prydeinig i gymryd lle Lloegr, Cymru a’r Alban yng Nghwpan y Byd.

Nid y Prif Weinidog oedd yr unig un i deimlo’n anhapus am y sefyllfa. Mi wnaeth canolwr Samoa, Eliota Fuimaono Sapolu, gyhuddo Owens o hiliaeth tra’n trydar, ac o’r herwydd cafodd ei atal rhag chwarae unrhyw rygbi am gyfnod amhenodol.

Mae’r Prif Weinidog wedi rhestru 12 penderfyniad gan Owens y mae’n honni aeth yn erbyn Samoa, gan cynnwys cerdyn coch i’r cefnwr Paul Williams.

Dywed y dylai dyfarnwyr niwtral gael eu defnyddio yng Nghwpan y Byd 2015 yn Lloegr, ac y dylai pob tîm gael gorffwys am saith niwrnod rhwng pob gêm.