Mae actor byd enwog wedi talu teyrnged i Eisteddfod yr Urdd, gan ddweud mai ar lwyfan y brifwyl y cafodd ei ‘ddarganfod’ y tro cyntaf.
Mae Iwan Rheon yn fwyaf adnabyddus am bortreadu’r dihiryn, Ramsay Snow/Bolton, yn y gyfres ffantasi boblogaidd, Game of Thrones, ar HBO, a chyn hynny bu’n chwarae’r brif ran yn y gyfres Misfits ar E4.
Mae hefyd yn gyn-enillydd gwobr Olivier am ei ran yn y ddrama gerdd, Spring Awakening, ond mae llawer yng Nghymru yn dal i’w gofio fel yr actor a fu ar un adeg yn portreadu’r cymeriad Macs ar Pobol y Cwm.
Yn ôl cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, a gafodd ei eni yn nhref Caerfyrddin, mae’n cofio cael cynnig ei ran actio cyntaf ar ôl cystadlu mewn cystadleuaeth ymgom yn un o Eisteddfodau’r Urdd rai blynyddoedd yn ôl.
“I fi, fe wnaeth e i gyd ddechrau, mewn ffordd, o ran gyrfa mewn actio, yn Eisteddfod yr Urdd,” meddai Iwan Rheon, Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Caerdydd a’r Fro ar ddydd Llun (Mai 27).
“Mi ro’n i’n gwneud cystadleuaeth ymgom ac roedd Bethan Jones, oedd yn cynhyrchu Pobol y Cwm ar y pryd, yn beirniadu’r gystadleuaeth yna.
“Fe wnaeth hi ofyn i fi ddod i ddarllen am ran yn Pobol y Cwm a thrwy hynny fe wnes i gael hyder i fynd i ysgol ddrama a chario ymlaen i fod yn actor proffesiynol.
“Mewn ffordd, mae’n teimlo fy mod i wedi dod adre.”
Dyma glip o Iwan Rheon yn sôn am bwysigrwydd yr Urdd yn ei yrfa actio…