Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi y bydd tair ysgol gynradd yn ne’r sir yn cau yn yr haf.
Mewn cyfarfod llawn o’r cyngor ddoe (dydd Gwener, Mai 24), gwnaed penderfyniadau i gau ysgolion cynradd Beulah, Cilcennin a Threwen.
Daw hyn er gwaethaf galwadau gan rieni a chynghorwyr lleol i gadw’r ysgolion ar agor.
Yn ôl y Cynghorydd Catrin Miles, yr aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am Wasanaethau Ysgolion, mae “blynyddoedd o doriadau” yn gorfodi’r cyngor i “barhau i ystyried y ffyrdd mwyaf effeithlon o ddarparu addysg tra’n cynnal y safonau uchaf”.
“Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pob plentyn yng Ngheredigion yn parhau i gael yr addysg orau bosib,” meddai’r cynghorydd.
“Mae hyn yn rhan o’n hailstrwythuro parhaus o ysgolion i sicrhau ein bod yn gallu darparu’r amgylcheddau a’r profiadau dysgu gorau i’r disgyblion.”