Bu degau o bobol ifanc yn gorymdeithio drwy ddinas Bangor heddiw (dydd Gwener, Mai 24) yn galw ar lywodraethau’r byd i weithredu er mwyn atal cynhesu byd-eang.
Roedd yr orymdaith yn rhan o ymgyrch ryngwladol sydd wedi ei hysbrydoli gan yr ymgyrchwraig ifanc o Sweden, Greta Thunberg.
Ymhlith y gorymdeithwyr ym Mangor oedd disgyblion o ysgolion cynradd ac uwchradd lleol, gan gynnwys Pen-y-bryn, Tryfan a Dyffryn Ogwen.
Roedd Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, ac Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, hefyd yn bresennol yn yr orymdaith.
‘Rhaid cychwyn gwrando’
Yn ôl un o’r siaradwyr heddiw, sef Macey Gray o gangen Extinction Rebellion yng ngogledd Cymru, dyma’r eildro i Youth Strike 4 Climate gynnal gorymdaith yn ninas Bangor eleni.
Ond roedd y digwyddiad heddiw “yn fwy” na’r un ddechrau mis Ebrill, meddai, sy’n profi bod pobol ifanc yn “frwdfrydig” tros ddiogelu’r amgylchedd.
“Y nod oedd galw ar bobol sydd mewn grym i gychwyn gwrando ar genedlaethau’r dyfodol sy’n poeni am eu dyfodol,” meddai Macey Gray wrth golwg360.
“Yn fy araith heddiw, fe wnes i gyfeirio at y ffaith fy mod i’n 19 oed ac yn meddwl peidio â chael plant oherwydd bod cyflwr yr hinsawdd mor wael fel ei bod hi’n benderfyniad doeth i beidio â dwyn plant i fyd lle mae’r amgylchedd yn ansicr.”
Protest beicio
Bydd protest arall yn cael ei chynnal ym Mangor dros y penwythnos, lle bydd ymgyrchwyr yn gorymdeithio drwy’r ddinas ar gefn beics.
Mae’r cyfan wedi ei drefnu ar y cyd rhwng Extinction Rebellion a Beicio Bangor, ac maen nhw’n galw ar Gyngor Gwynedd i ddarparu mwy o lwybrau ar gyfer beicwyr.
“Mae hwn ynglŷn â rhoi pwysau ar Gyngor Gwynedd ar ôl iddyn nhw gyhoeddi argyfwng newid hinsawdd,” meddai Macey Grey.
Bydd yr orymdaith yn cychwyn yng Nglanrafon am 10.30 bore Sadwrn.