Mae angen “cymorth ychwanegol” ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn ôl corff iechyd annibynnol yn y gogledd.
Daw ar ôl i adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad nodi bod yna “bryderon difrifol” ynghylch perfformiad y bwrdd, sydd wedi bod o dan fesurau arbennig ers 2015.
Yn ôl yr adroddiad, mae’r bwrdd wedi methu â chwrdd â thargedau amser, weld digon o gynnydd o ran gwella gwasanaethau iechyd meddwl, ac wedi gorwario hyd at £41.3m.
Mae hefyd yn nodi nad yw ymyrraeth Llywodraeth Cymru wedi cael llawer o effaith ar y gwasanaeth yn ymarferol, a bod angen trawsnewid gwasanaethau’r gogledd ar frys.
“Ailadeiladu hyder”
Roedd Corff Iechyd Cymuned Gogledd Cymru (CICGC) wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fis Mawrth y llynedd yn mynegi eu pryderon ynghylch cyflwr y bwrdd iechyd.
Mae’r llythyr hwnnw yn dweud:
‘Mae cred ymysg aelodau CICGC fod Mesurau Arbennig erbyn hyn yn ‘norm’ i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac mae’n ymddangos fod effaith hyn wedi diflannu.
‘Nid ni yw’r unig bobl sy’n credu hyn. Cadarnhaodd cysylltiad sylweddol ein haelodau gyda’r cyhoedd yn ystod ein sesiynau ymgysylltu cyhoeddus eang nad oes gan y cyhoedd hyder y bydd y bwrdd iechyd presennol yn gallu darparu’r gofal iechyd mae’r cyhoedd yn y gogledd yn ei ddisgwyl.
‘Mae Cadeirydd newydd y bwrdd iechyd ac aelodau’r bwrdd yn wynebu’r her o ailadeiladu hyder y cyhoedd sy’n rhan allweddol i ddod allan o’r Mesurau Arbennig.
‘Bydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru yn parhau i weithio gyda hwy i gyflawni hyn drwy adlewyrchu barn a phrofiadau cleifion.’