Mae angen ‘gwneud mwy’ i atal hunanladdiad ymhlith ffermwyr, meddai Aelod Seneddol o Gymru.
Wrth arwain dadl yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe (dydd Mercher, Mai 22), fe gyfeiriodd Chris Davies, yr aelod tros Frycheiniog a Sir Faesyfed at ymchwil gan undeb yr NFU sy’n dangos bod gan y diwydiant amaeth y gyfradd uchaf o hunanladdiad.
Ychwanegodd fod 81% o ffermwyr o dan 40 oed yn “credu mai iechyd meddwl yw’r broblem guddiedig fwyaf ymhlith ffermwyr heddiw”, a bod achosion o hunanladdiad yn cael “effaith anferthol” ar gymunedau.
“Nid rhif yn unig yw pob ystadegyn,” meddai Chris Davies. “Mae’n fod dynol sy’n cael effaith ddifrifol ar deulu, ar gymuned ac ar ddiwydiant.”
Yn cytuno ag ef oedd Aelod Seneddol Ogwr, Chris Elmore, a ddywedodd fod angen codi’r ymwybyddiaeth am y gwahanol faterion sy’n wynebu ffermwyr.
“Mae yna angen i wella’r ddealltwriaeth o’r pwysau go iawn sy’n wynebu’r diwydiant,” meddai.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain eu bod nhw y byddan nhw’n ystyried lles ffermwyr wrth baratoi a gweithredu polisïau amaethyddol newydd.