Mae cynlluniau dadleuol i droi rhan o westy hanesyddol yng nghanol tref Aberaeron yn archfarchnad, wedi eu gwrthod gan swyddogion cynllunio.
Mae gwesty’r Feathers yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 19eg ganrif, a thros y blynyddoedd bu’n lleoliad poblogaidd ar gyfer priodasau, ocsiynau a chiniawau.
Ond bu gwrthwynebu mawr yn lleol ar ôl i’r perchnogion presennol, Lawrence Dovey o gwmni datblygu Doublet Holdings yng Nghaerdydd, gyhoeddi cynlluniau i drawsnewid rhan o’r gwesty yn fusnes manwerthu.
Roedd deiseb ar-lein yn erbyn y bwriad wedi derbyn dros 1,000 o lofnodion.
Mae’r cais ar gyfer caniatâd cynllunio bellach wedi ei wrthod gan Gyngor Sir Ceredigion, gyda phroblemau trafnidiaeth a’r peryg o golli gwesty mewn tref wyliau poblogaidd ymhlith y rhesymau tros hynny.
Peryg o “danseilio” Aberaeron
Yn ôl y Cynghorydd Elizabeth Evans, fe dderbyniodd hi alwad gan swyddog cynllunio yr wythnos ddiwethaf yn gofyn am bwerau dirprwyedig er mwyn gwrthod y cais.
“Roeddwn i o’r farn y byddai’r cynlluniau’n tanseilio’r gwesty yn sylweddol,” meddai’r cynghorydd sir tros ward Aberaeron wrth golwg360.
“O ganlyniad i hynny, fe fyddai’n tanseilio gallu Aberaeron i barhau fel lleoliad ar gyfer twristiaid a busnesau, oherwydd er mwyn sicrhau lleoliad addas, mae’n rhaid cael hyn a hyn o ofod ar gyfer gwelyau.
“Wrth golli tua 13 o welyau yn y Feathers, dw i ddim yn meddwl y byddai’r dref wedi gallu ymdopi â’r fath ergyd.
“Yn ogystal â hynny, mae’n rhaid gofyn a ydy Aberaeron yn gallu cynnal archfarchnad a phob dim sydd ynddo? Dw i o’r farn na fyddai archfarchnad wedi cael effaith bositif ar y stryd fawr yn Aberaeron…”