Mae cyn-arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin bellach wedi ei wneud yn Gadeirydd.
Bu’r Cynghorydd Kevin Madge yn arwain y cyngor rhwng 2012 a 2015, pan gafodd ei ddisodli gan gyd-aelodau iddo yn y Blaid Lafur.
Mae’r aelod tros Garnant yn Nyffryn Aman bellach wedi olynu’r Cynghorydd Mansel Charles, yr aelod tros Lanegwad, yng nghadair y cyngor am y flwyddyn nesaf.
Yr Is-Gadeirydd newydd yw’r Cynghorydd Ieuan Davies, yr aelod tros Lanybydder.
Mae dyletswyddau’r Cadeirydd yn cynnwys cadeiriau cyfarfodydd llawn y cyngor, cynrychioli’r cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a chroesawu ymwelwyr i’r sir.
Mae disgwyl i’r Cadeirydd hefyd gefnogi elusen o’i ddewis yn ystod y flwyddyn, ac eleni fe fydd y Cynghorydd Kevin Madge yn cefnogi’r Ymddiriedolaeth Trussell, sy’n gyfrifol am rwydwaith o fanciau bwyd yng ngwledydd Prydain.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y flwyddyn sydd i ddod,” meddai. “Byddaf yn gwneud fy ngorau glas dros bawb.”