Mae un o golofnwyr cylchgrawn Golwg wedi amddiffyn sylwadau dadleuol a wnaeth wrth gyfeirio at brif actores y gyfres deledu, Un Bore Mercher, gan ddweud ei fod yn defnyddio “dull eironig a dychanol”.
Yn ei golofn ‘Ar y Soffa’ yn rhifyn yr wythnos yma o’r cylchgrawn, mae Huw Onllwyn yn agor gyda’r frawddeg: “Nid oes amheuaeth fod gan Eve Myles goesau hyfryd – sy’n edrych yn well fyth mewn pâr o high-heels.
“Ac mae hynny’n gwneud Un Bore Mercher yn werth ei wylio.”
Mae’r colofnydd yn mynd yn ei flaen i ddweud bod pennod gynta’r gyfres newydd wedi ei siomi – “… roedd yn teimlo ar adegau fy mod yn gwylio rihyrsal drama newydd”.
Ymhlith y rhai sydd wedi beirniadu brawddegau agoriadol y golofn mae’r actor Bradley Freegard, gŵr Eve Myles, sydd hefyd yn ymddangos yn Un Bore Mercher.
Mae wedi disgrifio’r sylwadau fel rhai “annerbyniol” a “sinistr”.
Yn ôl cylchgrawn Golwg, bwriad y golofn oedd “ysgogi trafodaeth am y ffordd y mae menywod yn cael eu portreadu ar deledu”.
“Dull eironig a dychanol”
Mewn ymateb i’r beirniadu, mae Huw Onllwyn wedi amddiffyn ei sylwadau.
“Yn fy ngholofn, roeddwn yn cwestiynu pam fod cynhyrchwyr y rhaglen wedi penderfynu fod angen gwisgo Eve Myles (sy’n chwarae rhan Faith Howells – mam i dri o blant a chyfreithwraig brysur) mewn high-heels a sgert fer,” meddai.
“Fy marn yw y gwnaed hyn er mwyn defnyddio sex-appeal Ms Myles er lles ratings y rhaglen.
“Ond yn hytrach na chyflwyno’r pwynt mewn dull sych a diflas, fe ddefnyddiais ddull eironig a dychanol (arddull cyson y golofn) er mwyn tynnu sylw at y mater. Mae fy mhwynt yn un difrifol, fodd bynnag – sy’n tynnu sylw at sut y cyflwynir cymeriad Ms Myles ar Un Bore Mercher.
“Rwy’n flin na chyflwynwyd yr elfen hon o ddychan yn ddigon clir.”
“Ysgogi trafodaeth”
Dywed cylchgrawn Golwg mai“nod y golofn oedd ysgogi trafodaeth am y ffordd y mae menywod yn cael eu dangos ar deledu. Mi fydd Golwg yn gwrando ar y drafodaeth am hynny, ac ar y ffordd yr oedd Huw Onllwyn wedi mynegi ei farn.
“Mae Huw Onllwyn wedi egluro’i safbwynt: ei fod yn tynnu sylw at y ffordd y mae cymeriad Eve Myles yn cael ei ddangos ar y rhaglen, gyda phwyslais ar y sodlau uchel a’i hedrychiad.
“Roedd yn ceisio codi’r pwynt mewn ffordd ddychanol ond mae’n amlwg nad oedd hi’n glir i bawb mai dyna’r nod… un o beryglon, a chryfderau, dychan…
“Os oedd sylwadau ‘Ar y Soffa’ yn cythruddo am y rhesymau anghywir ac os oedd tôn y golofn yn creu camargraff, mae’n ddrwg iawn gyda ni am hynny … ond gobeithio y bydd pawb, gan gynnwys y cynhyrchwyr teledu, yn ystyried y pwynt y tu cefn iddyn nhw.”
Yr ymateb ar Twitter…
Rili? Dwi di cael digon o blatant misogyny ac objectifyo menywod am un wythnos. Siomedig. pic.twitter.com/MJrD6815WP
— Miriam Isaac (@miriamisaac) May 16, 2019
@CylchgrawnGolwg! Mae gennym ni Gymry ryddid i fod ar flaen y gad! (Gweler Codi Pais a Barn.) Ma'r 2 baragraff 1af yn neud mi deimlo cywilydd/piti achos mae'n *hollol* ansafonol ac anerbyniol.Daily Mail o isel. Ma hi n 2019 a dw i'm isio i mhlant ddarllen petha fel ma o Gymru. pic.twitter.com/8I7whCe83c
— Lleuwen (@Lleuwen) May 16, 2019
Wedi siomi bod sylwadau fel hyn dal yn ffeindio’i fordd mewn i gylchgrawn, ac un Gymraeg os hynny! Hollol warthus bod hyn wedi gael yr ‘oce’ yn y lle cyntaf! ??#unboremercher @CylchgrawnGolwg https://t.co/OerhLIc069
— Zahra Parry (@zahparry) May 17, 2019
Hi @CylchgrawnGolwg, mae hwn yn warthus. Mae'r 70au wedi galw, mae nhw eisiau'r golygfeydd rhywiaethol nôl. https://t.co/X0CuNQn18W
— Cllr Rhys Mills ??????? (@PlaidRhys) May 17, 2019
Annwyl @CylchgrawnGolwg. 1. Saciwch y clown secsist yma yn syth. 2. Wnewch chi ymddiheurio yn gyhoeddus am argraffu y golofn yma? 3. Oes ganddoch chi olygydd?! (?@miriamisaac) pic.twitter.com/dUKYs4pZie
— Turnstile (@turnstilemusic) May 17, 2019