Mae yna “fwlch anferthol” yn y farchnad am ddeunydd darllen Cymraeg i ferched yn eu harddegau, yn ôl golygydd cylchgrawn digidol newydd.
Mae Lysh Cymru wedi ei anelu at ferched rhwng 11 a 14 oed, a’i nod yw cyhoeddi “deunydd ffres, cyfoes, slic” yn rhad ac am ddim ar-lein, gan roi sylw i bynciau fel colur, gwleidyddiaeth, cerddoriaeth a iechyd.
Yn ôl Llinos Dafydd, mae’r cylchgrawn yn wahanol i gylchgronau traddodiadol yn y modd y byddai’n defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol gan gynnwys Instagram, Facebook a Snapchat.
Bydd hefyd yn “rhoi llwyfan” i ferched ifanc “gael dweud eu dweud”, meddai, gyda chyfle iddyn nhw gyfrannu deunydd ar ffurf fideos, blogiau neu erthyglau traddodiadol.
“Chwa o awyr iach”
“Bydd y llwyfan newydd yma yn chwa o awyr iach i ferched ifanc Cymru,” meddai.
“Bydd yn gyfle iddyn nhw gael llais, ac chael dweud eu dweud ar bynciau amrywiol sy’n apelio atyn nhw.
“Mae yna fwlch anferthol yn y farchnad ar hyn o bryd mewn deunydd Cymraeg i’r oed allweddol yma, a dw i’n edrych ymlaen at gyhoeddi erthyglau, blogiau a vlogiau difyr dros y cyfnod nesaf.”
Dyma Llinos Dafydd yn esbonio mwy am Lysh Cymru…