Mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod perfformiad economaidd Cymru gyda’r gwaethaf yn y Deyrnas Unedig yn ystod chwarter cyntaf eleni.
Rhwng misoedd Ionawr a Mawrth bu cynnydd o 5,000 yn nifer y di-waith yng Nghymru – o gymharu â chwymp o 65,000 ledled Prydain a Gogledd Iwerddon.
Dim ond dau ranbarth yn Lloegr a welodd gynnydd mewn diweithdra yn y cyfnod.
Bellach mae 4.5% o bobl Cymru’n ddi-waith – cyfran sylweddol uwch nag yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban, a dim ond mewn tri allan o naw rhanbarth yn Lloegr y mae’n uwch.
Mae’r gyfradd ddiweithdra o 3.8% yn y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd yn is nag y bu ers 1974.
Mae’r cyfanswm o bobl mewn gwaith hefyd hefyd wedi codi i’r trydydd uchaf ers 1971.
Mwy o’r Undeb Ewropeaidd
Er gwaethaf ansicrwydd Brexit, mae mwy nag erioed o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn gweithio yng ngwledydd Prydain. Roedd y cyfanswm o 2.38 miliwn ar ddiwedd mis Mawrth yn 98,000 yn fwy na’r hyn oedd ddechrau’r flwyddyn. Mae’r nifer wedi cynyddu 237,000 ers y refferendwm yn 2016.