Mae’r orymdaith fawr a gafodd ei chynnal yng Nghaerdydd ddoe (dydd Sadwrn, Mai 11) yn dangos bod “annibyniaeth yn dechrau dod yn ganolbwynt i wleidyddiaeth Cymru”, yn ôl Siôn Jobbins, cadeirydd Yes Cymru.

Roedd ychydig filoedd yn bresennol yn y digwyddiad a gafodd ei drefnu gan fudiad Pawb Dan Un Faner, ond lle’r oedd nifer o fudiadau annibyniaeth eraill wedi cael eu cynrychioli.

“Ro’n i’n meddwl ei fod e’n ddiwrnod hyfryd, positif, hapus, croesawgar, cyfeillgar a chryf,” meddai wrth golwg360.

“Mae wedi synnu pobol, gan gynnwys y trefnwyr, faint o bobol oedd yno yn dangos bo nhw eisiau annibyniaeth.

“Mae rhywbeth wedi digwydd dros y flwyddyn neu ddwy ddiwetha’, gyda phobol yn dod allan o’u cragen a dweud nad yw Cymru angen San Steffan, ac y gallwn ni gael annibyniaeth a bod yn wlad go iawn.”

‘Cam anferthol ymlaen’

Yn ôl Siôn Jobbins, mae’r orymdaith yn arwydd o’r hyn y mae’n bosib i’r mudiad tros annibyniaeth ei gyflawni ar raddfa genedlaethol.

“Mae’n gam anferthol ymlaen. Roedd elfen o risg wrth drefnu rhywbeth fel hyn, a rhai pobol yn teimlo y gallai’r peth gwympo’n fflat ar ei wyneb pe bai jyst cwpwl o gannoedd yn troi lan.

“Roedd rhai pobol wedi amau faint o ddiddordeb sydd mewn annibyniaeth, ac mae hynny’n rhywbeth sydd wedi codi yn naturiol, ry’n ni’n derbyn hynny.

“Ry’n ni’n gwybod ein bod ni’n farn leiafrifol yng Nghymru, does dim unrhyw hunandwyll felly.

“Ond roedd y ffaith fod pobol wedi troi lan, a gweld cymaint o amrywiaeth o bobol yno, pobol o bob rhan o Gymru ac o bob oedran yn wych.

“Roedd rhywun yn dweud mai dyma’r tro cynta’ iddyn nhw deimlo’u bod nhw’n gorymdeithio dros rhywbeth, ac nid yn erbyn rhywbeth.”

“Mae’n gam anferth, yn dangos bod yna chwant am annibyniaeth, a bod gan y mudiad dros annibyniaeth y gallu i drefnu digwyddiad mawr, a bod y mudiad yn gallu gwarantu pobol o bob cefndir i gefnogi.”

… ond rhai yn dal yn amau

Mae Siôn Jobbins yn dadlau bod yr orymdaith yn ergyd i’r rhai fu’n dweud ers amser maith nad oes galw am annibyniaeth yng Nghymru.

“Mae wedi profi sawl person, oedd yn amheus os oes diddordeb o blaid annibyniaeth, yn anghywir a bod diddordeb, yn sicr. Mae’n dechrau dod yn ganolbwynt i wleidyddiaeth Cymru.”

Ymhlith y gwrthwynebwyr mwyaf i annibyniaeth, meddai, mae’r wasg a’r cyfryngau Prydeinig, sy’n gwthio agenda “Brydeinig a Phrydeinllyd” ers tro.

“Ry’n ni’n barod i gael rhywfath o backlash. Ry’n ni’n disgwyl diddordeb achos mae’n stori dda, mae’n stori ddiddorol ac yn ddigwyddiad lliwgar.

“Dw i’n credu bo ni’n dechrau gweld mwy o bobol yn dechrau gweld sut mae modd tynnu’r mudiad i lawr, felly mae eisiau i’n cefnogwyr ni beidio â brathu pob abwyd. Mae’n iawn weithiau i gerdded bant ac anwybyddu rhai sylwadau.

“Ond gawn ni weld a fydd y wasg a’r cyfryngau Prydeinig yn gwthio mwy ar Brydeindod. Maen nhw wedi bod yn gwneud hynny ers dros ddegawd nawr, yn enwedig yn arwain at Gemau Olympaidd Llundain, oedd i bob pwrpas yn Brydeinig a Phrydeinllyd. Dim ond Union Jacks welais i.

“Ers dyddiau Gordon Brown, mae push mawr wedi bod ar Brydeindod, ac mae’n dangos fod e ddim wedi gweithio. Mae e wedi creu adwaith lle mae pobol wedi cael llond bol ar gael ein cymryd yn ganiataol bo ni i gyd yn Brydeinwyr bach hapus a bobol.

“Ond mae pobol Cymru wedi dangos asgwrn cefn ac wedi ymladd yn ôl.”

Y cam nesaf?

Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad, mae’n dweud nad yw mudiad Yes Cymru wedi meddwl am y cam nesaf hyd yn hyn, ond bod yna sgôp i gynnal digwyddiadau tebyg mewn lleoliadau eraill yng Nghymru.

“Byddwn ni’n sicr yn edrych i gynnal raliau tebyg dros annibyniaeth yn y dyfodol. Beth faswn i’n hoffi yw bo nhw ar gael yn ninasoedd Cymru.

“Ac o ran Yes Cymru, bo ni’n dechrau dosbarthu taflenni o ddrws i ddrws dros annibyniaeth, a bo ni’n llythrennol yn mynd â’r neges i’r strydoedd ac i dai pobol.

“Dyn ni ddim eisiau dangos embaras. Ry’n ni eisiau bod yn agored a dangos i bobol pam bo ni’n credu mewn annibyniaeth, a pham mai dyna fyddai’r cam gorau i Gymru.”