Mae pobol yn poeni am safle’r Eisteddfod… ydach chi’n gallu rhannu gwybodaeth newydd efo nhw?
“Rydan ni fel bwrdd yn cyfarfod amser cinio heddiw (dydd Gwener, Mai 10) ac yn amlwg fe fydd yna dri a thrafod a cheisio penderfynu beth sy’n digwydd.
“Mae’r pwyllgor gwaith lleol yn cyfarfod nos Lun. Ac yn dilyn hwnnw nos Lun, hyd y gwn i, y byddwn ni wedyn yn gallu rhyddhau datganiad ar gyfer bore dydd Mawrth yn nodi be ydi be. Dyna yw fy ngobaith i ar hyn o bryd.”
Rydan ni’n deall fod darlledwyr yn cynllunio ar gyfer prifwyl “yn Nyffryn Conwy”. Fedrwch chi gadarnhau hynny?
“Yn sicr, rydan ni’n gobeithio hynny. Alla’ i ddim dweud cant y cant am unrhyw beth nes y byddwn ni wedi cyfarfod amser cinio yma. A’n dyletswydd ni wedyn yw datgan beth bynnag fydd yn cael ei benderfynu heddiw yn y Pwyllgor Gwaith nos Lun.”
A fydd yr Eisteddfod yn, neu ar gyrion, Llanrwst?
“Dyna’r gobaith o hyd.”
A ydach chi’n fodlon cadarnhau mai yng nghyffiniau Pentrefoelas y bydd y Maes Carafanau? Os felly, mae’n awgrymu y gallai’r eisteddfod gyfan gael ei symud y ffordd honno… ydi hynny’n wir?
“Dw i ddim yn ymwybodol o gwbl bod y Maes Carafanau yn mynd i Bentrefoelas. Dw i ddim yn ymwybodol o hynny. Dw i’n sicr ddim yn ymwybodol bod yna fwriad i symud yr Eisteddfod i Bentrefoelas.”
Pe bai hynny’n wir, sut fyddech chi’n ateb pryderon pobol Sir Conwy yn ardal y Glannau (Llandudno, Bae Colwyn ac Abergele) ei bod hi’n brifwyl iddyn nhw hefyd?
“Dw i ddim yn rhagweld hynny’n digwydd [sef symud yr Eisteddfod i gyffiniau Pentrefoelas).”
Mae’r rheiny sy’n poeni go-iawn yn mynd cyn belled â dweud y gallai Eisteddfod 2019 fod yn ŵyl deledu yn unig. Ydi hyn wedi’i drafod? Ac os ydi o, ydi o’n dal yn bosibilrwydd?
“Nac ydi, hyd y gwn i.”
Mae golwg360 yn gwybod fod yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd wedi bod yn holi Pontio, Bangor, am y posibilrwydd o gynnal cystadlaethau yno. Ydi’r opsiwn o symud elfennau i Fangor yn dal ar y bwrdd?
“Wn i ddim am hynny.”
Yn ôl at fater y Maes, ydi o’n wir fod yn rhaid i’r Eisteddfod dalu am y tir fydd ddim yn cael ei ddefnyddio (oherwydd methiant i gael yswiriant) er na fydd yn Faes? Sut mae cyfiawnhau hyn, a thalu am diroedd newydd?
“Dw i ddim yn gwybod pa feysydd sydd wedi eu defnyddio, yn mynd i gael eu defnyddio neu ddim yn cael eu defnyddio, ar hyn o bryd. Felly alla i ddim ateb y cwestiwn yna.
“Ond faswn i ddim yn tybio y bydd yna dalu am diroedd nas defnyddir.”
Cyn iddi hi ddechrau, a ydi prifwyl 2019 yn bownd o wneud colled, er gwaethaf ymdrechion glew pobol Sir Conwy i godi arian?
“Does yna ddim byd yn bownd o wneud colled. Mae’n gwbl ddibynnol ar sut fydd yr ymateb yn lleol, a’r gefnogaeth a’r tywydd a’r holl ffactorau eraill rydyn ni’n gorfod delio â nhw’n flynyddol.”
Tri mis i heddiw (12 wythnos) mae disgwyl i Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 agor ei drysau. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i eisteddfodwyr ynglŷn â’r hyn sy’n eu disgwyl?
“Mi fydd hynny’n cael ei gyhoeddi, gobeithio, ddydd Mawrth nesaf (Mai 14).”
A ydi’r trafferthion hyn eleni yn rhoi’r farwol i’r syniad o deithio gŵyl sydd wedi mynd mor fawr? Ac a ydi hyn yn ddadl tros gael meysydd parod, aml-dywydd, mewn gwahanol gorneli o Gymru?
“Mi faswn i’n mawr obeithio nad ydy hynny’n wir. Ac mi fydda i’n ymdrechu hyd eithaf fy ngallu i rwystro’r canoli ac i barhau i deithio.”
O sôn am feysydd parhaol, a Llanelwedd yn gorfod bod yn un i’w ystyried, pa sicrwydd sydd yna i rieni gwersyllwyr a gigwyr Maes B eleni y bydd eu plant yn ddiogel yn cerdded i ac o gigs? Yn lle mae Maes B yn union eleni? Faint o bellter o’r Maes? Pa mor bell o’r Maes Carafanau? Faint o waith cerdded yn y nos o’r naill le i’r llall? Ydach chi’n berffaith hapus ei fod o’n saff?
“Dyna be fyddwn ni’n cael gwybod heddiw (dydd Gwener, Mai 10), gobeithio [ble fydd Maes B], felly fedra i ddim ymateb ar wahân i’r ffaith ei fod o wastad yn gyfrifoldeb rydyn ni’n ei gymryd yn eithriadol o ddifrifol, sef gofal pobol ifanc.
“Ond yn lle yn union [y bydd Maes B], dydw i ddim yn gwybod ar hyn o bryd.”
O ran traffig ac ystyriaethau trafnidiaeth, ydi’r Heddlu yn rhan o’r trafodaethau yn gyson? Beth ydi eu cyngor nhw i chi, fel trefnwyr yr Eisteddfod?
“Mae’r Heddlu wedi bod yn gefnogol tu hwnt… Mi gawn ni wybod [eu cyngor] heddiw. Ond ar hyn o bryd mae’r trafodaethau’n gadarnhaol iawn.”
Gyda thri mis i fynd, mewn blwyddyn arferol, pa waith fasa’n cael ei wneud ar hyn o bryd? Gosod traeniau? Ceblau dan-ddaear? Mynedfeydd? Agor gwrychoedd? A ydi hi’n bosib dal i fyny efo gwaith fel hyn ar Faes newydd sbon mewn cyn lleied o amser?
“Swyddogion yr Eisteddfod fyddai’n gallu’n dweud hynny wrthoch chi, yn hytrach na fi.”
Pam na fyddech chi wedi derbyn cynnig hael Cyngor Tref Abergele, a dychwelyd i’r maes yn Llan San Siôr, yr un a fu’n gartref i brifwyl 1995? Ydi’r cynnig hwnnw yn rhan o’r drafodaeth o hyd? Mae dealltwriaeth y darlledwyr, sy’n gweithio tuag at brifwyl yn Nyffryn Conwy, yn awgrymu fod y syniad hwnnw wedi’i wrthod… ond heb i bobol Abergele gael gwybod yn swyddogol ganddoch chi…
“Fe fydd ystyriaeth am hynny. Dw i ddim yn deall sut maen nhw’n dweud na fu ymateb… a dw i ddim mewn sefyllfa i drafod hynny.
“Mae pob peth wedi bod dan ystyriaeth, ond dw i ddim yn ymwybodol… Ches i ddim cais a dw i ddim wedi bod mewn cysylltiad â nhw. Alla’ i ddim ateb y cwestiwn yna, achos ches i ddim mo’r awgrym [fod y cynnig wedi ei wrthod].
Pa mor aml y mae Bwrdd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cyfarfod ar hyn o bryd i drafod y diweddaraf? Fel Llywydd y Llys, oes ganddoch chi neges i’r aelodau, sef cefnogwyr y brifwyl ar lawr gwlad?
“[Cyfarfod] fel bo’r galw. Yn sicr yn fisol ond mae wedi bod yn amlach yn y cyfnod diweddar. [Ddim yn wythnosol] fel bwrdd, ond rydan ni’n parhau i gael gwybod yn gyson ac yn aml beth ydy’r diweddaraf…
“Rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i ddarparu’r eisteddfod gorau posib a bod swyddogion yr eisteddfod wedi gweithio’n eithriadol o galed dros yr wythnosau diwethaf i sicrhau hynny.”
Pa effaith mae’r ansicrwydd yma yn ei gael ar werthiant tocynnau? A fydd hynny hefyd yn glec i goffrau’r brifwyl eleni?
“Unwaith eto nid fi sy’n gallu ateb y cwestiwn hwnnw ond y swyddogion. Ond mi faswn i ddim yn rhagweld hynny, ond fedra i ddim ateb yn ffeithiol.”
Ydach chi’n derbyn y feirniadaeth y dylech chi fod wedi siarad yn gyson efo eisteddfodwyr ynglŷn â phob datblygiad yn y stori yma, yn hytrach na dweud dim? Onid ydi hynny wedi achosi mwy o bryder a hel straeon?
“Nac ydw. Mae unrhyw wybodaeth y gallwn ni ei rhyddhau wedi ei rhyddhau. Yn naturiol, wrth ganfod lleoliadau a threfnu cytundebau, mae’r trafodaethau yn rhy sensitif i fod yn gyhoeddus.
“[Mae hynny] achos bod angen trafod cytundebau gyda thirfeddianwyr, a dyw unrhyw gytundebau o’r fath byth yn rhai cyhoeddus.”
Pryd ydach chi’n anelu at wneud datganiad am safle/oedd Eisteddfod Genedlaethol 2019? Roedd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol wedi addo cyhoeddiad wythnos a hanner yn ôl, ond ddaeth dim byd. Ydach chi’n gwerthfawrogi pryderon pobol? Neu oes yna gynllun cudd, plan B, a’ch bod chi’n ei gadw’n gyfrinach?
“Wrth gwrs, ond dydi eu pryderon nhw ddim ond yn gyffelyb i’n pryderon ni. Yr hyn ry’n ni’n ceisio ei sicrhau yw’r ŵyl orau posib yn y lleoliad gorau posib gan ragweld yn y pendraw y bydd darnau yn disgyn i’w lle.
“Does gen i ddim [cynllun cyfrinachol], yn sicr.”