Fe gerddodd tri Aelod Cynulliad Ceidwadol allan mewn protest yn ystod araith gan Brif Weinidog Cymru i ddathlu pen-blwydd y Cynulliad yn 20 oed.

Wnaeth gweddill y grŵp Ceidwadol ddim cymeradwyo chwaith ar ddiwedd anerchiad Mark Drakeford yn y siambr.

Roedden nhw’n ei gyhuddo o gamddefnyddio’r achlysur drwy wneud araith rhy wleidyddol, yn ymosod yn chwyrn ar bolisi llymder y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan.

Condemnio toriadau gwario

Gyda chynulleidfa o gyn-Aelodau Cynulliad a gwahoddedigion yn oriel gyhoeddus y Senedd, roedd Mark Drakeford wedi trafod pump peth a fyddai wedi synnu sylfaenwyr y Cynulliad, a phump a fyddai wedi eu siomi.

Ymhlith y rheiny, fe roddodd yr amser mwya’ i gondemnio’r toriadau ariannol oedd wedi bod yn ystod ail ddegawd y sefydliad – y cyfnod mwya’ llym o doriadau gwario cyhoeddus ers 200 mlynedd, meddai.

“Cyn 1999, doedden ni ddim wedi clywed y term ‘banc bwyd’. Fydden ni ddim wedi gallu rhagweld effaith degawd o lymder ar ddeunydd ein gwasanaethau cyhoeddus a’n cymdeithas.

“Erbyn diwedd y Cynulliad hwn, fe fydd 50,000 yn fwy o blant yn byw mewn tlodi nag oedd yn 2010.”

Dyna pryd y gadawodd tri Aelod Cynulliad y siambr – Mark Reckless, Janet Finch-Saunders a Darren Millar.

Cyn hynny, roedd Mark Drakeford wedi galw am fwy o gydweithio ar draws pleidiau, fel yn y dyddiau cynnar, ac am wleidyddiaeth fwy caredig.