Mae Prifysgfol Bangor wedi penderfynu na fydd cynllun pensiynau gweithwyr sydd ar y cyflogau isaf yno yn newid.
Daw hyn yn dilyn protest gan lanhawyr, cogyddion a swyddogion diogelwch Prifysgol Bangor heddiw (Dydd Mawrth, Mai 7) yn erbyn bwriad eu cyflogwr i leihau eu pensiynau.
Yn ôl undeb Unsain, roedd y Brifysgol eisiau talu 12% yn llai i botiau pensiwn y gweithwyr ar y cyflogau isaf.
Roedd bwriad i wneud hyn heb unrhyw gleihad ar gyfraniadau i botiau pensiwn gweithwyr ar gyflogau uwch, megis darlithwyr ac uwch reolwyr, yn ôl Unsain.
Dim newid
“Yn dilyn ystyriaeth ofalus o’r adborth a gafwyd ar gynigion i newid cynllun pensiwn lleol y brifysgol (BUPAS), mae’r Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu heddiw na fydd y cynllun yn newid,” meddai cyfarwyddwr cyfathrebu Prifysgol Bangor, Alan Parry.
“Gwrandawodd y Brifysgol yn ofalus ar yr ymatebion a ddarparwyd gan staff, ac mae’n ddiolchgar i bawb a fu’n ymgysylltu’n adeiladol â’r broses ymgynghori.“
Daw’r tro pedol yn dilyn beirniadaeth hallt gan Wendy Allison o “anffafriaeth afiach” y Brifysgol.
“Mae gweithwyr cefnogol [Prifysgol] Bangor yn cael llai o gyflog ac mae eu pensiynau yn eithaf tlawd fel mae pethau.”