Mae dyn a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth Lauren Griffiths wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Cafodd corff Ms Griffiths ei ddarganfod mewn eiddo yn ardal Cathays yng Nghaerdydd ar Ebrill 30,

Mae dyn 22 oed o Wrecsam wedi cael ei ryddhau tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal.

Dywed Heddlu’r De nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac maent yn apelio am wybodaeth.