Mae eogiaid gwyllt yn fwy secsi na rhai sy’n cael eu magu ar ffermydd pysgod.
Dyna yw casgliad ymchwil gan fyfyriwr PHD ym Mhrifysgol Bangor, sy’n edrych ar y gwahaniaethau rhwng eog gwyllt, eog sy’n cael ei ffermio ac eog croesryw.
Yn ôl William Perry, mae’r bachau (kype) dan ên eog gwyllt yn fwy – ac felly yn fwy atyniadol – na’r bachau ar eog sydd wedi ei fagu ar fferm dan amodau artiffisial.
Mae’r bachau yma ar bysgodyn yn debyg i gorn carw, yn ôl yr ymchwil – gyda bachau neu gorn mawr yn fwy secsi nag un bach.
Eog llai deniadol
“Mae eogiaid a ffermir… yn llai tebygol o fridio’n llwyddiannus yn y gwyllt, ac maent hefyd yn llai tebygol o ddychwelyd o’r cefnfor i afonydd dŵr croyw i silio,” meddai William Perry.
“Mae nodi bod y nodwedd rywiol eilaidd hon yn llai amlwg mewn eogiaid a ffermir yn arwydd arall nad yw pysgod a ffermir, fel rhywogaeth ymrannol, yn gallu addasu’n dda, ac yn llai abl i gystadlu nag eogiaid gwyllt. Gall hwn fod yn batrwm sy’n cael ei ailadrodd mewn nifer o rywogaethau dyframaeth eraill.”
Mae’r canfyddiad newydd wedi ei gyhoeddi yn y cylchgrawn gwyddoniaeth, Royal Society Open Science.