Mae dyn 49 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Sammy-Lee Lodwig, 22, o Abertawe.

Mae Jason Shaun Farrell wedi’i gadw yn y ddalfa cyn mynd gerbron ynadon y ddinas yfory (dydd Llun, Ebrill 29).

Mae teulu’r ddynes wedi cael gwybod, wrth iddyn nhw barhau i gael eu cefnogi gan yr heddlu.

Yn ôl yr heddlu, maen nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn ardal Carlton Terrace a Stryd Mansel y ddinas rhwng 4 o’r gloch prynhawn dydd Llun, Ebrill 22 a 4 o’r gloch bore Mawrth, Ebrill 23.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall ar hyn o bryd.