Fe lwyddodd yr heddlu i atal tri rêf yn y gorllewin a’r canolbarth dros benwythnos y Pasg.
Roedd y cyfan yn rhan o ‘Ymgyrch Flamenco’, a oedd yn cynnwys cydweithio rhwng Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gwent ac amryw o gyrff cyhoeddus a phreifat.
Drwy gyfrwng yr ymgyrch, fe lwyddwyd i archwilio 23 o safleoedd yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys yn ystod y penwythnos diwethaf mewn ymgais i atal unrhyw bartïon awyr agored anghyfreithlon.
Bu un digwyddiad yn ardal Brechfa, Sir Gaerfyrddin, a gafodd ei atal ar ôl i swyddogion o Gyfoeth Naturiol Cymru ddod ar draws bag amheus oedd yn llawn cerrig, ynghyd â rhubanau wedi eu clymu ar gatiau a pherthi.
Fe dderbyniodd yr heddlu adroddiadau am ddigwyddiadau tebyg yn ardaloedd Gwynne Fawr a Thalybont ar Wysg ym Mhowys hefyd.
‘Cydweithio yn bwysig’
“Dylai fforestydd a chefn gwlad fod yn agored i bawb i fwynhau, ond mae rêfs anghyfreithlon yn gallu difrodi’r amgylchedd, effeithio ar fywyd gwyllt a’i adael mewn cyflwr peryglus i eraill,” meddai llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Mae digwyddiadau o’r fath yn gallu achosi diflastod i ymwelwyr a chymunedau lleol, ac rydym ni eisoes yn cymryd camau er mwyn ei gwneud hi’n anoddach i bobol eu trefnu ar ein daear.
“Ond mae dod o hyd i arwyddion cynnar bod ref am ddigwydd, ynghyd â chysylltu â’r heddlu, yn bwysig iawn ac yn golygu y gallwn ni ymyrryd yn syth i’w atal.”