Mae Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, yn dweud bod cau ffatri Rehau yn Amlwch yn “ergyd ddifrifol” i’r ynys.
Bydd y ffatri’n cau ddiwedd y flwyddyn, gyda thros 100 o swyddi’n cael eu colli mewn ardal lle mae nifer sylweddol o swyddi eisoes wedi’u colli o gwmnïau eraill.
Daeth cadarnhad ddechrau’r flwyddyn fod 104 o swyddi yn y fantol o ganlyniad i lai o alw dramor am gynhyrchion PVC y cwmni.
Mae’r cwmni bellach yn dweud nad oes yna ddewis arall er mwyn achub y ffatri.
“Mae hon yn ergyd ddifrifol i weithlu ffyddlon Rehau, eu teuluoedd, cymuned Amlwch ac ardaloedd y cylch,” meddai Llinos Medi mewn datganiad.
“Mae Rehau wedi bod yn un o brif gyflogwr y dref ac yn gyflogwr da ers degawdau – ac felly ein pryder mwya’ fydd dyfodol y gweithlu a’r teuluoedd hynny sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol.
“Bydd y grŵp tasg sefydlwyd ar ôl crybwyll cau ddechrau’r flwyddyn yn parhau i weithio tuag at gydlynu’n effeithiol yr holl gymorth sydd ar gael i weithwyr.”
Mae’n dweud bod y cyhoeddiad, ynghyd â’r penderfyniad i atal cynllun Wylfa Newydd, yn gadael yr ynys, ac yn enwedig ardal Amlwch “mewn sefyllfa ansicr a bregus”.