Mae cysylltiad Tre’r Sosban â rygbi wedi ysbrydoli un cwmni siocled yn y dref i greu wyau Pasg unigryw.
Ers rhai blynyddoedd bellach, mae cwmni Cwtsh Chocolate wedi bod yn cynhyrchu ac yn gwerthu wyau Pasg ar ffurf peli rygbi.
Yn ôl perchennog y cwmni, Peter Lloyd, mae’r wyau, neu’r peli siocled, yn boblogaidd drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig ymhlith cefnogwyr clwb y Scarlets, sy’n medru eu prynu yn siop Parc y Scarlets adeg gemau.
“Gyda rhywbeth sydd wedi cael ei wneud â llaw, mae pobol yn eu hoffi nhw,” meddai Paul Lloyd, sy’n gwerthu rhwng 3,000 a 4,000 o’r peli bob blwyddyn.
“Ond â chymaint [o wyau] yn y siopau a’r archfarchnadoedd, mae’n rhaid bod yn wahanol iawn er mwyn gwerthu.”
O’r garej i’r ffatri siocled
Yn ogystal â chyflenwi’r Scarlets a rhai siopau yn nhref Llanelli, mae gan Cwtsh Chocolate gytundeb â’r clwb hoci, Cardiff Devils, hefyd, ac yn dosbarthu siocled i wledydd ledled y byd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau.
Ond mae Peter Lloyd yn mynnu mai dim ond yn lleol y mae’r peli’n cael eu gwerthu, oherwydd y peryg nad ydyn nhw’n cyrraedd “mewn un pishyn” os ydyn nhw’n cael eu dosbarthu i leoliadau y tu hwnt i Gymru.
Fe ddechreuodd Peter Lloyd y fenter o gynhyrchu siocled pedair blynedd yn ôl, pan adawodd ei hen swydd yn fecanic mewn garej yn nhref Caerfyrddin oherwydd problemau iechyd.
“Dw i jyst yn hoffi siocled,” meddai. “Fe brynes i lyfrau a fideos a jyst dechrau arni.
“Hyd yn oed pan o’n i’n mecanic, roedd drâr y toolbox yn llawn siocledi.”